Ein haddewid i chi
Rydyn ni'n parchu eich dymuniadau
Mae'n hollol wirfoddol i gymryd rhan, a does dim rhaid ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau eu hateb.
Rydyn ni'n ateb eich cwestiynau
Byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch yr astudiaeth nad ydynt wedi eu trafod yma.
Rydym yn diogelu eich preifatrwydd
Mae'r canlyniadau a gesglir i ddibenion ymchwil yn unig a byddant yn cael eu pasio ymlaen i Lywodraeth Cymru ac Arad. Bydd eich atebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol.
Fyddwch chi ddim yn derbyn unrhyw bost sothach o ganlyniad i siarad gyda ni. Fyddwn ni byth yn pasio eich manylion ymlaen i sefydliadau eraill i ddibenion masnachol. Bydd eich atebion yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwch yn cael eich enwi na'ch datgelu yn adroddiad yr ymchwil.